25 A'r ddau ben arall i'r ddwy gadwyn blethedig dod ynglŷn wrth y ddau foglyn, a dod ar ysgwyddau yr effod o'r tu blaen.
26 Gwna hefyd ddwy fodrwy o aur, a gosod hwynt ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr effod o'r tu mewn.
27 A gwna ddwy fodrwy o aur, a dod hwynt ar ddau ystlys yr effod oddi tanodd, tua'i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr effod.
28 A'r ddwyfronneg a rwymant â'u modrwyau wrth fodrwyau yr effod â llinyn o sidan glas, fel y byddo oddi ar wregys yr effod, fel na ddatoder y ddwyfronneg oddi wrth yr effod.
29 A dyged Aaron, yn nwyfronneg y farnedigaeth, enwau meibion Israel ar ei galon, pan ddelo i'r cysegr, yn goffadwriaeth gerbron yr Arglwydd yn wastadol.
30 A dod ar ddwyfronneg y farnedigaeth, yr Urim a'r Thummim; a byddant ar galon Aaron pan elo i mewn gerbron yr Arglwydd: ac Aaron a ddwg farnedigaeth meibion Israel ar ei galon, gerbron yr Arglwydd, yn wastadol.
31 Gwna hefyd fantell yr effod oll o sidan glas.