33 A gwna ar ei godre hi bomgranadau o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, ar ei godre o amgylch; a chlych o aur rhyngddynt o amgylch.
34 Cloch aur a phomgranad, a chloch aur a phomgranad, ar odre'r fantell o amgylch.
35 A hi a fydd am Aaron wrth weini: a cheir clywed ei sŵn ef pan ddelo i'r cysegr, gerbron yr Arglwydd, a phan elo allan; fel na byddo farw.
36 Gwna hefyd ddalen o aur coeth; a nadd arni, fel naddiadau sêl, SANCTEIDDRWYDD I'R ARGLWYDD.
37 A gosod hi wrth linyn o sidan glas, a bydded ar y meitr: o'r tu blaen i'r meitr y bydd.
38 A hi a fydd ar dalcen Aaron, fel y dygo Aaron anwiredd y pethau sanctaidd a gysegro meibion Israel yn eu holl roddion sanctaidd: ac yn wastad y bydd ar ei dalcen ef, fel y byddo iddynt ffafr gerbron yr Arglwydd.
39 Gweithia ag edau a nodwydd y bais o liain main; a gwna feitr o liain main; a'r gwregys a wnei o wniadwaith.