35 A hi a fydd am Aaron wrth weini: a cheir clywed ei sŵn ef pan ddelo i'r cysegr, gerbron yr Arglwydd, a phan elo allan; fel na byddo farw.
36 Gwna hefyd ddalen o aur coeth; a nadd arni, fel naddiadau sêl, SANCTEIDDRWYDD I'R ARGLWYDD.
37 A gosod hi wrth linyn o sidan glas, a bydded ar y meitr: o'r tu blaen i'r meitr y bydd.
38 A hi a fydd ar dalcen Aaron, fel y dygo Aaron anwiredd y pethau sanctaidd a gysegro meibion Israel yn eu holl roddion sanctaidd: ac yn wastad y bydd ar ei dalcen ef, fel y byddo iddynt ffafr gerbron yr Arglwydd.
39 Gweithia ag edau a nodwydd y bais o liain main; a gwna feitr o liain main; a'r gwregys a wnei o wniadwaith.
40 I feibion Aaron hefyd y gwnei beisiau, a gwna iddynt wregysau; gwna hefyd iddynt gapiau, er gogoniant a harddwch.
41 A gwisg hwynt am Aaron dy frawd, a'i feibion gydag ef: ac eneinia hwynt, cysegra hwynt hefyd, a sancteiddia hwynt, i offeiriadu i mi.