39 Gweithia ag edau a nodwydd y bais o liain main; a gwna feitr o liain main; a'r gwregys a wnei o wniadwaith.
40 I feibion Aaron hefyd y gwnei beisiau, a gwna iddynt wregysau; gwna hefyd iddynt gapiau, er gogoniant a harddwch.
41 A gwisg hwynt am Aaron dy frawd, a'i feibion gydag ef: ac eneinia hwynt, cysegra hwynt hefyd, a sancteiddia hwynt, i offeiriadu i mi.
42 Gwna hefyd iddynt lodrau lliain i guddio eu cnawd noeth: o'r lwynau hyd y morddwydydd y byddant.
43 A byddant am Aaron, ac am ei feibion, pan ddelont i mewn i babell y cyfarfod, neu pan ddelont yn agos at yr allor i weini yn y cysegr: fel na ddygont anwiredd, a marw. Hyn fydd deddf dragwyddol iddo ef, ac i'w had ar ei ôl.