5 Cymerant gan hynny aur, a sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main.
6 A gwnânt yr effod o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, o waith cywraint.
7 Dwy ysgwydd fydd iddi wedi eu cydio wrth ei dau gwr; ac felly y cydir hi ynghyd.
8 A gwregys cywraint ei effod ef yr hwn fydd arni, fydd o'r un, yn unwaith â hi; o aur, sidan glas, a phorffor, ysgarlad hefyd, a lliain main cyfrodedd.
9 Cymer hefyd ddau faen onics, a nadd ynddynt enwau meibion Israel:
10 Chwech o'u henwau ar un maen, a'r chwech enw arall ar yr ail faen, yn ôl eu genedigaeth.
11 A gwaith naddwr mewn maen, fel naddiadau sêl, y neddi di y ddau faen, ag enwau meibion Israel: gwna hwynt â boglynnau o aur o'u hamgylch.