8 A gwregys cywraint ei effod ef yr hwn fydd arni, fydd o'r un, yn unwaith â hi; o aur, sidan glas, a phorffor, ysgarlad hefyd, a lliain main cyfrodedd.
9 Cymer hefyd ddau faen onics, a nadd ynddynt enwau meibion Israel:
10 Chwech o'u henwau ar un maen, a'r chwech enw arall ar yr ail faen, yn ôl eu genedigaeth.
11 A gwaith naddwr mewn maen, fel naddiadau sêl, y neddi di y ddau faen, ag enwau meibion Israel: gwna hwynt â boglynnau o aur o'u hamgylch.
12 A gosod y ddau faen ar ysgwyddau yr effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel. Ac Aaron a ddwg eu henwau hwynt gerbron yr Arglwydd ar ei ddwy ysgwydd, yn goffadwriaeth.
13 Gwna hefyd foglynnau aur;
14 A dwy gadwyn o aur coeth yn eu pennau: o blethwaith y gwnei hwynt; a dod y cadwynau plethedig ynglŷn wrth y boglynnau.