13 Cymer hefyd yr holl fraster a fydd yn gorchuddio'r perfedd, a'r rhwyden a fyddo ar yr afu, a'r ddwy aren, a'r braster a fyddo arnynt, a llosg ar yr allor.
14 Ond cig y bustach, a'i groen, a'i fiswail, a losgi mewn tân, o'r tu allan i'r gwersyll: aberth dros bechod yw.
15 Cymer hefyd un hwrdd; a gosoded Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd.
16 A lladd yr hwrdd; a chymer ei waed ef, a thaenella ar yr allor o amgylch.
17 A thor yr hwrdd yn ddarnau; a golch ei berfedd, a'i draed, a dod hwynt ynghyd â'i ddarnau, ac â'i ben.
18 A llosg yr hwrdd i gyd ar yr allor: poethoffrwm i'r Arglwydd yw: arogl peraidd, aberth tanllyd i'r Arglwydd yw.
19 A chymer yr ail hwrdd; a rhodded Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd.