15 Cymer hefyd un hwrdd; a gosoded Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd.
16 A lladd yr hwrdd; a chymer ei waed ef, a thaenella ar yr allor o amgylch.
17 A thor yr hwrdd yn ddarnau; a golch ei berfedd, a'i draed, a dod hwynt ynghyd â'i ddarnau, ac â'i ben.
18 A llosg yr hwrdd i gyd ar yr allor: poethoffrwm i'r Arglwydd yw: arogl peraidd, aberth tanllyd i'r Arglwydd yw.
19 A chymer yr ail hwrdd; a rhodded Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd.
20 Yna lladd yr hwrdd, a chymer o'i waed, a dod ar gwr isaf clust ddeau Aaron, ac ar gwr isaf clust ddeau ei feibion, ac ar fawd eu llaw ddeau hwynt, ac ar fawd eu troed deau hwynt; a thaenella'r gwaed arall ar yr allor o amgylch.
21 A chymer o'r gwaed a fyddo ar yr allor, ac o olew yr eneiniad, a thaenella ar Aaron, ac ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion gydag ef: felly sanctaidd fydd efe a'i wisgoedd, ei feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion gydag ef.