29 A dillad sanctaidd Aaron a fyddant i'w feibion ar ei ôl ef, i'w heneinio ynddynt, ac i'w cysegru ynddynt.
30 Yr hwn o'i feibion ef a fyddo offeiriad yn ei le ef, a'u gwisg hwynt saith niwrnod, pan ddelo i babell y cyfarfod i weini yn y cysegr.
31 A chymer hwrdd y cysegriad, a berwa ei gig yn y lle sanctaidd.
32 A bwytaed Aaron a'i feibion gig yr hwrdd, a'r bara yr hwn fydd yn y cawell, wrth ddrws pabell y cyfarfod.
33 A hwy a fwytânt y pethau hyn y gwnaed y cymod â hwynt, i'w cysegru hwynt ac i'w sancteiddio: ond y dieithr ni chaiff eu bwyta; canys cysegredig ydynt.
34 Ac os gweddillir o gig y cysegriad, neu o'r bara, hyd y bore; yna ti a losgi'r gweddill â thân: ni cheir ei fwyta, oblegid cysegredig yw.
35 A gwna fel hyn i Aaron, ac i'w feibion, yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti: saith niwrnod y cysegri hwynt.