3 A dod hwynt mewn un cawell, a dwg hwynt yn y cawell, gyda'r bustach a'r ddau hwrdd.
4 Dwg hefyd Aaron a'i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr.
5 A chymer y gwisgoedd, a gwisg am Aaron y bais, a mantell yr effod, a'r effod hefyd, a'r ddwyfronneg; a gwregysa ef â gwregys yr effod.
6 A gosod y meitr ar ei ben ef, a dod y goron gysegredig ar y meitr.
7 Yna y cymeri olew yr eneiniad, ac y tywellti ar ei ben ef, ac yr eneini ef.
8 A dwg ei feibion ef, a gwisg beisiau amdanynt.
9 A gwregysa hwynt â gwregysau, sef Aaron a'i feibion, a gwisg hwynt â chapiau: a bydd yr offeiriadaeth iddynt yn ddeddf dragwyddol: a thi a gysegri Aaron a'i feibion.