33 A hwy a fwytânt y pethau hyn y gwnaed y cymod â hwynt, i'w cysegru hwynt ac i'w sancteiddio: ond y dieithr ni chaiff eu bwyta; canys cysegredig ydynt.
34 Ac os gweddillir o gig y cysegriad, neu o'r bara, hyd y bore; yna ti a losgi'r gweddill â thân: ni cheir ei fwyta, oblegid cysegredig yw.
35 A gwna fel hyn i Aaron, ac i'w feibion, yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti: saith niwrnod y cysegri hwynt.
36 A phob dydd yr aberthi fustach yn aberth dros bechod, er cymod: a glanha yr allor, wedi i ti wneuthur cymod drosti, ac eneinia hi, i'w chysegru.
37 Saith niwrnod y gwnei gymod dros yr allor, ac y sancteiddi hi: felly yr allor fydd sanctaidd: pob peth a gyffyrddo â'r allor, a sancteiddir.
38 A dyma yr hyn a offrymi ar yr allor. Dau oen blwyddiaid, bob dydd yn wastadol.
39 Yr oen cyntaf a offrymi di y bore; a'r ail oen a offrymi di yn y cyfnos.