39 Yr oen cyntaf a offrymi di y bore; a'r ail oen a offrymi di yn y cyfnos.
40 A chyda'r naill oen ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu â phedwaredd ran hin o olew coethedig: a phedwaredd ran hin o win, yn ddiod‐offrwm.
41 A'r oen arall a offrymi di yn y cyfnos, ac a wnei iddo yr un modd ag i fwyd‐offrwm y bore, ac i'w ddiod‐offrwm, i fod yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i'r Arglwydd:
42 Yn boethoffrwm gwastadol trwy eich oesoedd, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd; lle y cyfarfyddaf â chwi, i lefaru wrthyt yno.
43 Ac yn y lle hwnnw y cyfarfyddaf â meibion Israel; ac efe a sancteiddir trwy fy ngogoniant.
44 A mi a sancteiddiaf babell y cyfarfod a'r allor; ac Aaron a'i feibion a sancteiddiaf, i offeiriadu i mi.
45 A mi a breswyliaf ymysg meibion Israel, ac a fyddaf yn Dduw iddynt.