43 Ac yn y lle hwnnw y cyfarfyddaf â meibion Israel; ac efe a sancteiddir trwy fy ngogoniant.
44 A mi a sancteiddiaf babell y cyfarfod a'r allor; ac Aaron a'i feibion a sancteiddiaf, i offeiriadu i mi.
45 A mi a breswyliaf ymysg meibion Israel, ac a fyddaf yn Dduw iddynt.
46 A hwy a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a'u dygais hwynt allan o dir yr Aifft, fel y trigwn yn eu plith hwynt: myfi yw yr Arglwydd eu Duw.