7 Yna y cymeri olew yr eneiniad, ac y tywellti ar ei ben ef, ac yr eneini ef.
8 A dwg ei feibion ef, a gwisg beisiau amdanynt.
9 A gwregysa hwynt â gwregysau, sef Aaron a'i feibion, a gwisg hwynt â chapiau: a bydd yr offeiriadaeth iddynt yn ddeddf dragwyddol: a thi a gysegri Aaron a'i feibion.
10 A phâr ddwyn y bustach gerbron pabell y cyfarfod; a rhodded Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben y bustach.
11 A lladd y bustach gerbron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod.
12 A chymer o waed y bustach, a dod ar gyrn yr allor â'th fys; a thywallt yr holl waed arall wrth droed yr allor.
13 Cymer hefyd yr holl fraster a fydd yn gorchuddio'r perfedd, a'r rhwyden a fyddo ar yr afu, a'r ddwy aren, a'r braster a fyddo arnynt, a llosg ar yr allor.