11 A dywedodd Moses wrth Dduw, Pwy ydwyf fi, fel yr awn i at Pharo, ac y dygwn blant Israel allan o'r Aifft?
12 Dywedodd yntau, Diau y byddaf gyda thi; a hyn a fydd arwydd i ti, mai myfi a'th anfonodd: Wedi i ti ddwyn fy mhobl allan o'r Aifft, chwi a wasanaethwch Dduw ar y mynydd hwn.
13 A dywedodd Moses wrth Dduw, Wele, pan ddelwyf fi at feibion Israel, a dywedyd wrthynt, Duw eich tadau a'm hanfonodd atoch; os dywedant wrthyf, Beth yw ei enw ef? beth a ddywedaf fi wrthynt?
14 A Duw a ddywedodd wrth Moses, YDWYF YR HWN YDWYF: dywedodd hefyd, Fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel; YDWYF a'm hanfonodd atoch.
15 A Duw a ddywedodd drachefn wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; Arglwydd Dduw eich tadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob, a'm hanfonodd atoch: dyma fy enw byth, a dyma fy nghoffadwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.
16 Dos a chynnull henuriaid Israel, a dywed wrthynt, Arglwydd Dduw eich tadau, Duw Abraham, Isaac, a Jacob, a ymddangosodd i mi, gan ddywedyd, Gan ymweled yr ymwelais â chwi, a gwelais yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aifft.
17 A dywedais, Mi a'ch dygaf chwi i fyny o adfyd yr Aifft, i wlad y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Amoriaid, a'r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a'r Jebusiaid; i wlad yn llifeirio o laeth a mêl.