4 Pan welodd yr Arglwydd ei fod efe yn troi i edrych, Duw a alwodd arno o ganol y berth, ac a ddywedodd, Moses, Moses. A dywedodd yntau, Wele fi.
5 Ac efe a ddywedodd, Na nesâ yma: diosg dy esgidiau oddi am dy draed; oherwydd y lle yr wyt ti yn sefyll arno sydd ddaear sanctaidd.
6 Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Duw dy dad, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob. A Moses a guddiodd ei wyneb; oblegid ofni yr ydoedd edrych ar Dduw.
7 A dywedodd yr Arglwydd, Gan weled y gwelais gystudd fy mhobl sydd yn yr Aifft, a'u gwaedd o achos eu meistriaid gwaith a glywais; canys mi a wn oddi wrth eu doluriau.
8 A mi a ddisgynnais i'w gwaredu hwy o law yr Eifftiaid, ac i'w dwyn o'r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Amoriaid, a'r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a'r Jebusiaid.
9 Ac yn awr wele, gwaedd meibion Israel a ddaeth ataf fi; a hefyd mi a welais y gorthrymder â'r hwn y gorthrymodd yr Eifftiaid hwynt.
10 Tyred gan hynny yn awr, a mi a'th anfonaf at Pharo; fel y dygech fy mhobl, plant Israel, allan o'r Aifft.