1 Gwna hefyd allor i arogldarthu arogldarth: o goed Sittim y gwnei di hi.
2 Yn gufydd ei hyd, ac yn gufydd ei lled, (pedeirongl fydd hi,) ac yn ddau gufydd ei huchder: ei chyrn fyddant o'r un.
3 A gwisg hi ag aur coeth, ei chefn a'i hystlysau o amgylch, a'i chyrn: a gwna hefyd iddi goron o aur o amgylch.
4 A gwna iddi ddwy fodrwy aur oddi tan ei choron, wrth ei dwy gongl: ar ei dau ystlys y gwnei hwynt; fel y byddant i wisgo am drosolion, i'w dwyn hi arnynt.
5 A'r trosolion a wnei di o goed Sittim: a gwisg hwynt ag aur.
6 A gosod hi o flaen y wahanlen sydd wrth arch y dystiolaeth; o flaen y drugareddfa sydd ar y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf â thi.