13 Hyn a ddyry pob un a elo dan rif. Hanner sicl, yn ôl sicl y cysegr: ugain gera yw y sicl: hanner sicl fydd yn offrwm i'r Arglwydd.
14 Pob un a elo dan rif, o fab ugeinmlwydd ac uchod, a rydd offrwm i'r Arglwydd.
15 Ni rydd y cyfoethog fwy, ac ni rydd y tlawd lai, na hanner sicl, wrth roddi offrwm i'r Arglwydd, i wneuthur cymod dros eich eneidiau.
16 A chymer yr arian cymod gan feibion Israel, a dod hwynt i wasanaeth pabell y cyfarfod; fel y byddant yn goffadwriaeth i feibion Israel gerbron yr Arglwydd, i wneuthur cymod dros eich eneidiau.
17 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
18 Gwna noe bres, a'i throed o bres, i ymolchi: a dod hi rhwng pabell y cyfarfod a'r allor: a dod ynddi ddwfr.
19 A golched Aaron a'i feibion ohoni eu dwylo a'u traed.