16 A chymer yr arian cymod gan feibion Israel, a dod hwynt i wasanaeth pabell y cyfarfod; fel y byddant yn goffadwriaeth i feibion Israel gerbron yr Arglwydd, i wneuthur cymod dros eich eneidiau.
17 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
18 Gwna noe bres, a'i throed o bres, i ymolchi: a dod hi rhwng pabell y cyfarfod a'r allor: a dod ynddi ddwfr.
19 A golched Aaron a'i feibion ohoni eu dwylo a'u traed.
20 Pan ddelont i babell y cyfarfod, ymolchant â dwfr, fel na byddont feirw; neu pan ddelont wrth yr allor i weini, gan arogldarthu aberth tanllyd i'r Arglwydd.
21 Golchant eu dwylo a'u traed, fel na byddont feirw: a bydded hyn iddynt yn ddeddf dragwyddol, iddo ef, ac i'w had, trwy eu cenedlaethau.
22 Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,