24 Ac o'r casia pwys pum cant o siclau, yn ôl sicl y cysegr; a hin o olew olewydden.
25 A gwna ef yn olew eneiniad sanctaidd, yn ennaint cymysgadwy o waith yr apothecari: olew eneiniad sanctaidd fydd efe.
26 Ac eneinia ag ef babell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth,
27 Y bwrdd hefyd a'i holl lestri, a'r canhwyllbren a'i holl lestri, ac allor yr arogl‐darth.
28 Ac allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a'r noe a'i throed.
29 A chysegra hwynt, fel y byddant yn sancteiddiolaf: pob peth a gyffyrddo â hwynt, a fydd sanctaidd.
30 Eneinia hefyd Aaron a'i feibion, a chysegra hwynt, i offeiriadu i mi.