26 Ac eneinia ag ef babell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth,
27 Y bwrdd hefyd a'i holl lestri, a'r canhwyllbren a'i holl lestri, ac allor yr arogl‐darth.
28 Ac allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a'r noe a'i throed.
29 A chysegra hwynt, fel y byddant yn sancteiddiolaf: pob peth a gyffyrddo â hwynt, a fydd sanctaidd.
30 Eneinia hefyd Aaron a'i feibion, a chysegra hwynt, i offeiriadu i mi.
31 A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Olew eneiniad sanctaidd a fydd hwn i mi, trwy eich cenedlaethau.
32 Nac eneinier ag ef gnawd dyn, ac ar ei waith ef na wnewch ei fath: sanctaidd yw, bydded sanctaidd gennych.