4 A gwna iddi ddwy fodrwy aur oddi tan ei choron, wrth ei dwy gongl: ar ei dau ystlys y gwnei hwynt; fel y byddant i wisgo am drosolion, i'w dwyn hi arnynt.
5 A'r trosolion a wnei di o goed Sittim: a gwisg hwynt ag aur.
6 A gosod hi o flaen y wahanlen sydd wrth arch y dystiolaeth; o flaen y drugareddfa sydd ar y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf â thi.
7 Ac arogldarthed Aaron arni arogldarth llysieuog bob bore: pan daclo efe y lampau, yr arogldartha efe.
8 A phan oleuo Aaron y lampau yn y cyfnos, arogldarthed arni arogl‐darth gwastadol gerbron yr Arglwydd, trwy eich cenedlaethau.
9 Nac offrymwch arni arogl‐darth dieithr, na phoethoffrwm, na bwyd‐offrwm; ac na thywelltwch ddiod‐offrwm arni.
10 A gwnaed Aaron gymod ar ei chyrn hi unwaith yn y flwyddyn, â gwaed pech-aberth y cymod: unwaith yn y flwyddyn y gwna efe gymod arni trwy eich cenedlaethau: sancteiddiolaf i'r Arglwydd yw hi.