11 Ac olew yr eneiniad, a'r arogl‐darth peraidd i'r cysegr; a wnânt yn ôl yr hyn oll a orchmynnais wrthyt.
12 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd,
13 Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Diau y cedwch fy Sabothau: canys arwydd yw rhyngof fi a chwithau, trwy eich cenedlaethau; i wybod mai myfi yw yr Arglwydd, sydd yn eich sancteiddio.
14 Am hynny cedwch y Saboth; oblegid sanctaidd yw i chwi: llwyr rodder i farwolaeth yr hwn a'i halogo ef; oherwydd pwy bynnag a wnelo waith arno, torrir ymaith yr enaid hwnnw o blith ei bobl.
15 Chwe diwrnod y gwneir gwaith, ac ar y seithfed dydd y mae Saboth gorffwystra sanctaidd i'r Arglwydd: pwy bynnag a wnelo waith y seithfed dydd, llwyr rodder ef i farwolaeth.
16 Am hynny cadwed meibion Israel y Saboth, gan gynnal Saboth trwy eu cenedlaethau, yn gyfamod tragwyddol.
17 Rhyngof fi a meibion Israel, y mae yn arwydd tragwyddol, mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a'r ddaear; ac mai ar y seithfed dydd y peidiodd, ac y gorffwysodd efe.