1 Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dyfod i waered o'r mynydd; yna yr ymgasglodd y bobl at Aaron, ac y dywedasant wrtho, Cyfod, gwna i ni dduwiau i fyned o'n blaen: canys y Moses hwn, y gŵr a'n dug ni i fyny o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddaeth ohono.
2 A dywedodd Aaron wrthynt, Tynnwch y clustlysau aur sydd wrth glustiau eich gwragedd, a'ch meibion, a'ch merched, a dygwch ataf fi.
3 A'r holl bobl a dynasant y clustlysau aur oedd wrth eu clustiau, ac a'u dygasant at Aaron.
4 Ac efe a'u cymerodd o'u dwylo, ac a'i lluniodd â chŷn, ac a'i gwnaeth yn llo tawdd: a hwy a ddywedasant, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a'th ddug di i fyny o wlad yr Aifft.