13 Cofia Abraham, Isaac, ac Israel, dy weision, y rhai y tyngaist wrthynt i ti dy hun, ac y dywedaist wrthynt, Mi a amlhaf eich had chwi fel sêr y nefoedd; a'r holl wlad yma yr hon a ddywedais, a roddaf i'ch had chwi, a hwy a'i hetifeddant byth.
14 Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd am y drwg a ddywedasai efe y gwnâi i'w bobl.
15 A Moses a drodd, ac a ddaeth i waered o'r mynydd, a dwy lech y dystiolaeth yn ei law: y llechau a ysgrifenasid o'u dau du; hwy a ysgrifenasid o bob tu.
16 A'r llechau hynny oedd o waith Duw: yr ysgrifen hefyd oedd ysgrifen Duw yn ysgrifenedig ar y llechau.
17 A phan glywodd Josua sŵn y bobl yn bloeddio, efe a ddywedodd wrth Moses, Y mae sŵn rhyfel yn y gwersyll.
18 Yntau a ddywedodd, Nid llais bloeddio am oruchafiaeth, ac nid llais gweiddi am golli'r maes; ond sŵn canu a glywaf fi.
19 A bu, wedi dyfod ohono yn agos i'r gwersyll, iddo weled y llo a'r dawnsiau: ac enynnodd digofaint Moses: ac efe a daflodd y llechau o'i ddwylo ac a'u torrodd hwynt islaw y mynydd.