20 Ac efe a gymerodd y llo a wnaethent hwy, ac a'i llosgodd â thân, ac a'i malodd yn llwch, ac a'i taenodd ar wyneb y dwfr, ac a'i rhoddes i'w yfed i feibion Israel.
21 A dywedodd Moses wrth Aaron, Beth a wnaeth y bobl hyn i ti, pan ddygaist arnynt bechod mor fawr?
22 A dywedodd Aaron, Nac enynned digofaint fy arglwydd: ti a adwaenost y bobl, mai ar ddrwg y maent.
23 Canys dywedasant wrthyf, Gwna i ni dduwiau i fyned o'n blaen: canys y Moses hwn, y gŵr a'n dug ni i fyny o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddaeth ohono.
24 A dywedais wrthynt, I'r neb y mae aur, tynnwch ef: a hwy a'i rhoddasant i mi: a mi a'i bwriais yn tân, a daeth y llo hwn allan.
25 A phan welodd Moses fod y bobl yn noeth, (canys Aaron a'u noethasai hwynt, i'w gwaradwyddo ymysg eu gelynion;)
26 Yna y safodd Moses ym mhorth y gwersyll, ac a ddywedodd, Pwy sydd ar du'r Arglwydd? deued ataf fi. A holl feibion Lefi a ymgasglasant ato ef.