25 A phan welodd Moses fod y bobl yn noeth, (canys Aaron a'u noethasai hwynt, i'w gwaradwyddo ymysg eu gelynion;)
26 Yna y safodd Moses ym mhorth y gwersyll, ac a ddywedodd, Pwy sydd ar du'r Arglwydd? deued ataf fi. A holl feibion Lefi a ymgasglasant ato ef.
27 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Gosodwch bob un ei gleddyf ar ei glun, ac ewch, cyniweiriwch o borth i borth trwy'r gwersyll, a lleddwch bob un ei frawd, a phob un ei gyfaill, a phob un ei gymydog.
28 A meibion Lefi a wnaethant yn ôl gair Moses: a chwympodd o'r bobl y dydd hwnnw ynghylch tair mil o wŷr.
29 Canys dywedasai Moses, Cysegrwch eich llaw heddiw i'r Arglwydd, bob un ar ei fab, ac ar ei frawd; fel y rhodder heddiw i chwi fendith.
30 A thrannoeth y dywedodd Moses wrth y bobl, Chwi a bechasoch bechod mawr: ac yn awr mi a af i fyny at yr Arglwydd; ond odid mi a wnaf gymod dros eich pechod chwi.
31 A Moses a ddychwelodd at yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Och! pechodd y bobl hyn bechod mawr, ac a wnaethant iddynt dduwiau o aur.