5 A phan ei gwelodd Aaron, efe a adeiladodd allor ger ei fron ef: ac Aaron a gyhoeddodd, ac a ddywedodd, Y mae gŵyl i'r Arglwydd yfory.
6 A hwy a godasant yn fore drannoeth, ac a offrymasant boethoffrymau, ac a ddygasant aberthau hedd: a'r bobl a eisteddasant i fwyta ac i yfed, ac a godasant i fyny i chwarae.
7 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cerdda, dos i waered: canys ymlygrodd dy bobl a ddygaist i fyny o dir yr Aifft.
8 Buan y ciliasant o'r ffordd a orchmynnais iddynt: gwnaethant iddynt lo tawdd, ac addolasant ef, ac aberthasant iddo; dywedasant hefyd, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a'th ddygasant i fyny o wlad yr Aifft.
9 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wargaled ydynt.
10 Am hynny yn awr gad i mi lonydd, fel yr enynno fy llid yn eu herbyn, ac y difethwyf hwynt: a mi a'th wnaf di yn genhedlaeth fawr.
11 A Moses a ymbiliodd gerbron yr Arglwydd ei Dduw, ac a ddywedodd, Paham, Arglwydd, yr enynna dy ddigofaint yn erbyn dy bobl, y rhai a ddygaist allan o wlad yr Aifft, trwy nerth mawr, a llaw gadarn?