1 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Nadd i ti ddwy o lechau cerrig, fel y rhai cyntaf: a mi a ysgrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist.
2 A bydd barod erbyn y bore; a thyred i fyny yn fore i fynydd Sinai, a saf i mi yno ar ben y mynydd.
3 Ond na ddeued neb i fyny gyda thi, ac na weler neb ar yr holl fynydd: na phored hefyd na dafad, nac eidion, ar gyfer y mynydd hwn.
4 Ac efe a naddodd ddwy o lechau cerrig, o fath y rhai cyntaf: a Moses a gyfododd yn fore, ac a aeth i fynydd Sinai, fel y gorchmynasai yr Arglwydd iddo; ac a gymerodd yn ei law y ddwy lech garreg.
5 A'r Arglwydd a ddisgynnodd mewn cwmwl, ac a safodd gydag ef yno, ac a gyhoeddodd enw yr Arglwydd.