14 Canys ni chei ymgrymu i dduw arall: oblegid yr Arglwydd, Eiddigus yw ei enw; Duw eiddigus yw efe;
15 Rhag i ti wneuthur cyfamod â phreswylwyr y tir; ac iddynt buteinio ar ôl eu duwiau, ac aberthu i'w duwiau, a'th alw di, ac i tithau fwyta o'u haberth;
16 A chymryd ohonot o'u merched i'th feibion; a phuteinio o'u merched ar ôl eu duwiau hwynt, a gwneuthur i'th feibion di buteinio ar ôl eu duwiau hwynt.
17 Na wna i ti dduwiau tawdd.
18 Cadw ŵyl y bara croyw: saith niwrnod y bwytei fara croyw, fel y gorchmynnais i ti, ar yr amser ym mis Abib: oblegid ym mis Abib y daethost allan o'r Aifft.
19 Eiddof fi yw pob peth a agoro y groth; a phob gwryw cyntaf o'th anifeiliaid, yn eidionau, ac yn ddefaid.
20 Ond y cyntaf i asyn a bryni di ag oen; ac oni phryni, tor ei wddf: prŷn hefyd bob cyntaf‐anedig o'th feibion: ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw.