21 Chwe diwrnod y gweithi; ac ar y seithfed dydd y gorffwysi: yn amser aredig, ac yn y cynhaeaf, y gorffwysi.
22 Cadw i ti hefyd ŵyl yr wythnosau, o flaenffrwyth y cynhaeaf gwenith; a gŵyl y cynnull, ar ddiwedd y flwyddyn.
23 Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrywiaid gerbron yr Arglwydd Dduw, Duw Israel.
24 Canys mi a yrraf y cenhedloedd allan o'th flaen di, ac a helaethaf dy derfynau di: ac ni chwennych neb dy dir di, pan elych i fyny i ymddangos gerbron yr Arglwydd dy Dduw, dair gwaith yn y flwyddyn.
25 Nac offryma waed fy aberth gyda bara lefeinllyd; ac nac arhoed aberth gŵyl y Pasg dros nos hyd y bore.
26 Dwg y gorau o flaenffrwyth dy dir i dŷ yr Arglwydd dy Dduw. Na ferwa fyn yn llaeth ei fam.
27 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifenna i ti y geiriau hyn: oblegid yn ôl y geiriau hyn y gwneuthum gyfamod â thi, ac ag Israel.