28 Ac efe a fu yno gyda'r Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos; ni fwytaodd fara, ac nid yfodd ddwfr: ac efe a ysgrifennodd ar y llechau eiriau'r cyfamod, sef y deg gair.
29 A phan ddaeth Moses i waered o fynydd Sinai, a dwy lech y dystiolaeth yn llaw Moses, pan ddaeth efe i waered o'r mynydd, ni wyddai Moses i groen ei wyneb ddisgleirio wrth lefaru ohono ef wrtho.
30 A phan welodd Aaron a holl feibion Israel Moses, wele, yr oedd croen ei wyneb ef yn disgleirio; a hwy a ofnasant nesáu ato ef.
31 A Moses a alwodd arnynt. Ac Aaron a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddychwelasant ato ef: a Moses a lefarodd wrthynt hwy.
32 Ac wedi hynny nesaodd holl feibion Israel: ac efe a orchmynnodd iddynt yr hyn oll a lefarasai yr Arglwydd ym mynydd Sinai.
33 Ac nes darfod i Moses lefaru wrthynt, efe a roddes len gudd ar ei wyneb.
34 A phan ddelai Moses gerbron yr Arglwydd i lefaru wrtho, efe a dynnai ymaith y llen gudd nes ei ddyfod allan: a phan ddelai efe allan, y llefarai wrth feibion Israel yr hyn a orchmynnid iddo.