4 Ac efe a naddodd ddwy o lechau cerrig, o fath y rhai cyntaf: a Moses a gyfododd yn fore, ac a aeth i fynydd Sinai, fel y gorchmynasai yr Arglwydd iddo; ac a gymerodd yn ei law y ddwy lech garreg.
5 A'r Arglwydd a ddisgynnodd mewn cwmwl, ac a safodd gydag ef yno, ac a gyhoeddodd enw yr Arglwydd.
6 A'r Arglwydd a aeth heibio o'i flaen ef, ac a lefodd JEHOFAH, JEHOFAH, y Duw trugarog a graslon, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd;
7 Yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddau anwiredd, a chamwedd, a phechod, a heb gyfrif yr anwir yn gyfiawn; yr hwn a ymwêl ag anwiredd y tadau ar y plant, ac ar blant y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth.
8 A Moses a frysiodd, ac a ymgrymodd tua'r llawr, ac a addolodd;
9 Ac a ddywedodd, Os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, O Arglwydd, eled fy Arglwydd, atolwg, yn ein plith ni, (canys pobl wargaled yw,) a maddau ein hanwiredd, a'n pechod, a chymer ni yn etifeddiaeth i ti.
10 Yntau a ddywedodd, Wele fi yn gwneuthur cyfamod yng ngŵydd dy holl bobl: gwnaf ryfeddodau, y rhai ni wnaed yn yr holl ddaear, nac yn yr holl genhedloedd; a'r holl bobl yr wyt ti yn eu mysg a gânt weled gwaith yr Arglwydd: canys ofnadwy yw yr hyn a wnaf â thi.