1 Yna y gweithiodd Besaleel ac Aholïab, a phob gŵr doeth o galon, y rhai y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd a deall ynddynt, i fedru gwneuthur holl waith gwasanaeth y cysegr, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd.
2 A Moses a alwodd Besaleel ac Aholïab, a phob gŵr celfydd, y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd iddo; pob un yr hwn y dug ei galon ei hun ef i nesáu at y gwaith i'w weithio ef.
3 A chymerasant gan Moses yr holl offrwm a ddygasai meibion Israel i waith gwasanaeth y cysegr, i'w weithio ef. A hwy a ddygasant ato ef ychwaneg o offrwm gwirfodd bob bore.
4 A'r holl rai celfydd, a'r oedd yn gweithio holl waith y cysegr, a ddaethant bob un oddi wrth ei waith, yr hwn yr oeddynt yn ei wneuthur.
5 A llefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, Y mae'r bobl yn dwyn mwy na digon er gwasanaeth i'r gwaith a orchmynnodd yr Arglwydd ei wneuthur.