15 Hyd un llen oedd ddeg cufydd ar hugain, a lled un llen oedd bedwar cufydd: a'r un mesur oedd i'r un llen ar ddeg.
16 Ac efe a gydiodd bum llen wrthynt eu hunain, a chwe llen wrthynt eu hunain.
17 Efe a wnaeth hefyd ddeg dolen a deugain ar ymyl eithaf y llen yn y cydiad; a deg dolen a deugain a wnaeth efe ar ymyl y llen yng nghydiad yr ail.
18 Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau pres, i gydio y babell‐len i fod yn un.
19 Ac efe a wnaeth do i'r babell‐len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a tho o grwyn daearfoch yn uchaf.
20 Ac efe a wnaeth ystyllod i'r tabernacl o goed Sittim, yn eu sefyll.
21 Deg cufydd oedd hyd ystyllen; a chufydd a hanner cufydd lled pob ystyllen.