23 Ac efe a wnaeth ystyllod i'r tabernacl; ugain ystyllen i'r tu deau, tua'r deau.
24 A deugain mortais arian a wnaeth efe dan yr ugain ystyllen: dwy fortais dan un ystyllen i'w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i'w dau dyno.
25 Ac i ail ystlys y tabernacl, o du'r gogledd, efe a wnaeth ugain ystyllen,
26 A'u deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.
27 Ac i ystlysau'r tabernacl, tua'r gorllewin, y gwnaeth efe chwech ystyllen.
28 A dwy ystyllen a wnaeth efe yng nghonglau'r tabernacl i'r ddau ystlys.
29 Ac yr oeddynt wedi eu cydio oddi tanodd; ac yr oeddynt hefyd wedi eu cydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y gwnaeth iddynt ill dwy yn y ddwy gongl.