31 Ac efe a wnaeth farrau o goed Sittim: pump i ystyllod un ystlys i'r tabernacl,
32 A phum bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phum bar i ystyllod y tabernacl i'r ystlysau o du'r gorllewin.
33 Ac efe a wnaeth y bar canol i gyrhaeddyd trwy'r ystyllod o gwr i gwr.
34 Ac efe a osododd aur dros yr ystyllod, ac a wnaeth eu modrwyau hwynt o aur, i fyned am y barrau; ac a wisgodd y barrau ag aur.
35 Ac efe a wnaeth wahanlen o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaeth efe hi.
36 Ac efe a wnaeth iddi bedair colofn o goed Sittim, ac a'u gwisgodd hwynt ag aur; a'u pennau oedd o aur: ac efe a fwriodd iddynt bedair mortais o arian.
37 Ac efe a wnaeth gaeadlen i ddrws y tabernacl o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, o waith edau a nodwydd;