35 Ac efe a wnaeth wahanlen o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaeth efe hi.
36 Ac efe a wnaeth iddi bedair colofn o goed Sittim, ac a'u gwisgodd hwynt ag aur; a'u pennau oedd o aur: ac efe a fwriodd iddynt bedair mortais o arian.
37 Ac efe a wnaeth gaeadlen i ddrws y tabernacl o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, o waith edau a nodwydd;
38 A'i phum colofn, a'u pennau; ac a oreurodd eu pennau hwynt, a'u cylchau, ag aur: ond eu pum mortais oedd o bres.