1 A Besaleel a wnaeth yr arch o goed Sittim; o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder.
2 Ac a'i gwisgodd hi ag aur pur o fewn ac oddi allan; ac a wnaeth iddi goron o aur o amgylch.
3 Ac a fwriodd iddi bedair modrwy o aur ar ei phedair congl: sef dwy fodrwy ar ei naill ystlys, a dwy fodrwy ar ei hystlys arall.
4 Efe a wnaeth hefyd drosolion o goed Sittim, ac a'u gwisgodd hwynt ag aur.
5 Ac a osododd y trosolion trwy'r modrwyau ar ystlysau yr arch, i ddwyn yr arch.
6 Ac efe a wnaeth y drugareddfa o aur coeth; o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled.
7 Ac efe a wnaeth ddau geriwb aur: o un dryll cyfan y gwnaeth efe hwynt, ar ddau ben y drugareddfa;