15 Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim, ac a'u gwisgodd hwynt ag aur i ddwyn y bwrdd.
16 Efe a wnaeth hefyd y llestri fyddai ar y bwrdd, ei ddysglau ef, a'i lwyau, a'i ffiolau, a'i gaeadau i gau â hwynt, o aur pur.
17 Ac efe a wnaeth ganhwyllbren o aur coeth; o un dryll cyfan y gwnaeth efe y canhwyllbren, ei baladr, ei geinciau, ei bedyll, ei gnapiau, a'i flodau, oedd o'r un.
18 A chwech o geinciau yn myned allan o'i ystlysau: tair cainc o'r canhwyllbren o un ystlys, a thair cainc o'r canhwyllbren o'r ystlys arall.
19 Tair padell ar waith almonau, cnap a blodeuyn oedd ar un gainc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar gainc arall: yr un modd yr oedd ar y chwe chainc, y rhai oedd yn dyfod allan o'r canhwyllbren.
20 Ac ar y canhwyllbren yr oedd pedair padell o waith almonau, ei gnapiau a'i flodau.
21 A chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono; yn ôl y chwe chainc oedd yn dyfod allan ohono.