22 Eu cnapiau a'u ceinciau oedd o'r un: y cwbl ohono ydoedd un dryll cyfan o aur coeth.
23 Ac efe a wnaeth ei saith lamp ef, a'i efeiliau, a'i gafnau, o aur pur.
24 O dalent o aur coeth y gwnaeth efe ef, a'i holl lestri.
25 Gwnaeth hefyd allor yr arogldarth o goed Sittim: o gufydd ei hyd, a chufydd ei lled, yn bedeirongl: ac o ddau gufydd ei huchder: ei chyrn oedd o'r un.
26 Ac efe a'i gwisgodd hi ag aur coeth, ei chaead, a'i hystlysau o amgylch, a'i chyrn; ac efe a wnaeth iddi goron o aur o amgylch.
27 Ac efe a wnaeth iddi ddwy fodrwy o aur wrth ei dwy gongl, ar ei dau ystlys, oddi tan ei choron, i fyned am drosolion i'w dwyn arnynt.
28 Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a'u gwisgodd hwynt ag aur.