26 Ac efe a'i gwisgodd hi ag aur coeth, ei chaead, a'i hystlysau o amgylch, a'i chyrn; ac efe a wnaeth iddi goron o aur o amgylch.
27 Ac efe a wnaeth iddi ddwy fodrwy o aur wrth ei dwy gongl, ar ei dau ystlys, oddi tan ei choron, i fyned am drosolion i'w dwyn arnynt.
28 Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a'u gwisgodd hwynt ag aur.
29 Ac efe a wnaeth olew yr eneiniad sanctaidd, a'r arogl‐darth llysieuog pur, o waith yr apothecari.