8 Un ceriwb ar y pen o'r tu yma, a cheriwb arall ar y pen o'r tu arall: o'r drugareddfa y gwnaeth efe y ceriwbiaid, ar ei dau ben hi.
9 A'r ceriwbiaid oeddynt, gan ledu esgyll tuag i fyny, a'u hesgyll yn gorchuddio'r drugareddfa, a'u hwynebau bob un at ei gilydd: wynebau'r ceriwbiaid oedd tuag at y drugareddfa.
10 Ac efe a wnaeth fwrdd o goed Sittim: dau gufydd ei hyd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder.
11 Ac a osododd aur pur drosto, ac a wnaeth iddo goron o aur o amgylch.
12 Gwnaeth hefyd iddo gylch o amgylch o led llaw; ac a wnaeth goron o aur ar ei gylch o amgylch.
13 Ac efe a fwriodd iddo bedair modrwy o aur; ac a roddodd y modrwyau wrth ei bedair congl, y rhai oedd yn ei bedwar troed.
14 Ar gyfer y cylch yr oedd y modrwyau, yn lle i'r trosolion i ddwyn y bwrdd.