11 A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Pwy a wnaeth enau i ddyn? neu pwy a ordeiniodd fudan, neu fyddar, neu y neb sydd yn gweled, neu y dall? onid myfi yr Arglwydd?
12 Am hynny dos yn awr; a mi a fyddaf gyda'th enau, ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych.
13 Dywedodd yntau, O fy Arglwydd, danfon, atolwg, gyda'r hwn a ddanfonych.
14 Ac enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Moses; ac efe a ddywedodd, Onid dy frawd yw Aaron y Lefiad? mi a wn y medr efe lefaru yn groyw: ac wele efe yn dyfod allan i'th gyfarfod; a phan y'th welo, efe a lawenycha yn ei galon.
15 Llefara dithau wrtho ef, a gosod y geiriau hyn yn ei enau: a minnau a fyddaf gyda'th enau di, a chyda'i enau yntau, a dysgaf i chwi yr hyn a wneloch.
16 A llefared yntau trosot ti wrth y bobl: ac felly y bydd efe yn lle genau i ti, a thithau a fyddi yn lle Duw iddo yntau.
17 Cymer hefyd y wialen hon yn dy law, yr hon y gwnei wyrthiau â hi.