2 A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Beth sydd yn dy law? Dywedodd yntau, Gwialen.
3 Ac efe a ddywedodd, Tafl hi ar y ddaear. Ac efe a'i taflodd hi ar y ddaear; a hi a aeth yn sarff: a Moses a giliodd rhagddi.
4 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law, ac ymafael yn ei llosgwrn hi. (Ac efe a estynnodd ei law, ac a ymaflodd ynddi; a hi a aeth yn wialen yn ei law ef:)
5 Fel y credant ymddangos i ti o Arglwydd Dduw eu tadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.
6 A dywedodd yr Arglwydd wrtho drachefn, Dod yn awr dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd ei law yn ei fynwes: a phan dynnodd efe hi allan, wele ei law ef yn wahanglwyfol fel yr eira.
7 Ac efe a ddywedodd, Dod eilwaith dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd eilwaith ei law yn ei fynwes, ac a'i tynnodd hi allan o'i fynwes; ac wele, hi a droesai fel ei gnawd arall ef.
8 A bydd, oni chredant i ti, ac oni wrandawant ar lais yr arwydd cyntaf, eto y credant i lais yr ail arwydd.