20 A Moses a gymerth ei wraig, a'i feibion, ac a'u gosododd hwynt ar asyn, ac a ddychwelodd i wlad yr Aifft: cymerodd Moses hefyd wialen Duw yn ei law.
21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pan elych i ddychwelyd i'r Aifft, gwêl i ti wneuthur gerbron Pharo yr holl ryfeddodau a roddais yn dy law: ond mi a galedaf ei galon ef, fel na ollyngo ymaith y bobl.
22 A dywed wrth Pharo, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Fy mab i, sef fy nghyntaf‐anedig, yw Israel.
23 A dywedais wrthyt, Gollwng fy mab, fel y'm gwasanaetho: ond os gwrthodi ei ollwng ef, wele, mi a laddaf dy fab di, sef dy gyntaf‐anedig.
24 A bu, ar y ffordd yn y llety, gyfarfod o'r Arglwydd ag ef, a cheisio ei ladd ef.
25 Ond Seffora a gymerth gyllell lem, ac a dorrodd ddienwaediad ei mab, ac a'i bwriodd i gyffwrdd â'i draed ef; ac a ddywedodd, Diau dy fod yn briod gwaedlyd i mi.
26 A'r Arglwydd a beidiodd ag ef: yna y dywedodd hi, Priod gwaedlyd wyt, oblegid yr enwaediad.