21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pan elych i ddychwelyd i'r Aifft, gwêl i ti wneuthur gerbron Pharo yr holl ryfeddodau a roddais yn dy law: ond mi a galedaf ei galon ef, fel na ollyngo ymaith y bobl.
22 A dywed wrth Pharo, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Fy mab i, sef fy nghyntaf‐anedig, yw Israel.
23 A dywedais wrthyt, Gollwng fy mab, fel y'm gwasanaetho: ond os gwrthodi ei ollwng ef, wele, mi a laddaf dy fab di, sef dy gyntaf‐anedig.
24 A bu, ar y ffordd yn y llety, gyfarfod o'r Arglwydd ag ef, a cheisio ei ladd ef.
25 Ond Seffora a gymerth gyllell lem, ac a dorrodd ddienwaediad ei mab, ac a'i bwriodd i gyffwrdd â'i draed ef; ac a ddywedodd, Diau dy fod yn briod gwaedlyd i mi.
26 A'r Arglwydd a beidiodd ag ef: yna y dywedodd hi, Priod gwaedlyd wyt, oblegid yr enwaediad.
27 A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Dos i gyfarfod â Moses i'r anialwch. Ac efe a aeth, ac a gyfarfu ag ef ym mynydd Duw, ac a'i cusanodd ef.