28 A Moses a fynegodd i Aaron holl eiriau yr Arglwydd, yr hwn a'i hanfonasai ef, a'r arwyddion a orchmynasai efe iddo.
29 A Moses ac Aaron a aethant, ac a gynullasant holl henuriaid meibion Israel.
30 Ac Aaron a draethodd yr holl eiriau a lefarasai yr Arglwydd wrth Moses, ac a wnaeth yr arwyddion yng ngolwg y bobl.
31 A chredodd y bobl: a phan glywsant ymweled o'r Arglwydd â meibion Israel, ac iddo edrych ar eu gorthrymder, yna hwy a ymgrymasant, ac a addolasant.