8 A bydd, oni chredant i ti, ac oni wrandawant ar lais yr arwydd cyntaf, eto y credant i lais yr ail arwydd.
9 A bydd, oni chredant hefyd i'r ddau arwydd hyn, ac oni wrandawant ar dy lais, ti a gymeri o ddwfr yr afon ac a'i tywellti ar y sychdir; a bydd y dyfroedd a gymerech o'r afon yn waed ar y tir sych.
10 A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, O fy Arglwydd, ni bûm ŵr ymadroddus, na chyn hyn, nac er pan leferaist wrth dy was; eithr safndrwm a thafotrwm ydwyf.
11 A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Pwy a wnaeth enau i ddyn? neu pwy a ordeiniodd fudan, neu fyddar, neu y neb sydd yn gweled, neu y dall? onid myfi yr Arglwydd?
12 Am hynny dos yn awr; a mi a fyddaf gyda'th enau, ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych.
13 Dywedodd yntau, O fy Arglwydd, danfon, atolwg, gyda'r hwn a ddanfonych.
14 Ac enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Moses; ac efe a ddywedodd, Onid dy frawd yw Aaron y Lefiad? mi a wn y medr efe lefaru yn groyw: ac wele efe yn dyfod allan i'th gyfarfod; a phan y'th welo, efe a lawenycha yn ei galon.