13 A'r meistriaid gwaith oedd yn eu prysuro, gan ddywedyd, Gorffennwch eich gwaith, dogn dydd yn ei ddydd, megis pan oedd gwellt.
14 A churwyd swyddogion meibion Israel, y rhai a osodasai meistriaid gwaith Pharo arnynt hwy; a dywedwyd, Paham na orffenasoch eich tasg, ar wneuthur priddfeini, ddoe a heddiw, megis cyn hynny?
15 Yna swyddogion meibion Israel a ddaethant ac a lefasant ar Pharo, gan ddywedyd, Paham y gwnei fel hyn â'th weision?
16 Gwellt ni roddir i'th weision; a Gwnewch briddfeini i ni, meddant: ac wele dy weision a gurwyd; a'th bobl di dy hun sydd ar y bai.
17 Ac efe a ddywedodd, Segur, segur ydych; am hynny yr ydych chwi yn dywedyd, Gad i ni fyned ac aberthu i'r Arglwydd.
18 Am hynny ewch yn awr, gweithiwch; ac ni roddir gwellt i chwi; eto chwi a roddwch yr un cyfrif o'r priddfeini.
19 A swyddogion meibion Israel a'u gwelent eu hun mewn lle drwg, pan ddywedid, Na leihewch ddim o'ch priddfeini, dogn dydd yn ei ddydd.